
About the School
Tour of the School
Documentation
School Canteen
Departments
GIFMAT
Extra-Curricular
Curriculum
Special Needs
The Sixth Form
Qualifications Guide 16-19
Y9 Options for KS4
Y11 Options for KS5
Exam Timetable
Uniform
Attendance
Pastoral System
TRANSITION
Lost Property
PTFA Contacts & Info
Dream BugDatganiad
Datganiad (Statement)
Calon i Lwyddo
Mae Ysgol Cil-y-Coed â chalon i lwyddo, a hynny drwy hyrwyddo safon uchel mewn awyrgylch egniol sy'n ysgogi a pharchu hawliau ac anghenion pob unigolyn er mwyn i'n disgyblion fagu sgiliau ar gyfer eu dyfodol fel oedolion.
Ein hamcanion:
Mae gan Ysgol Cil-y-Coed staff brwdfrydig a phrofiadol sydd wedi eu hymrwymo i ddarparu addysgu o'r safon uchaf posib ar gyfer pob disgybl. Mae ein disgwyliadau uchel ar gyfer llwyddiant ac ymddygiad yn creu awyrgylch trefnus a ffocws sy'n sail i ddysgu effeithiol. Rydym yn annog ein disgyblion i fod yn weithgar, ymholgar ac uchelgeisiol, er mwyn iddynt gyrraedd y safonau uchaf posib o fewn eu gallu, i'w harfogi ar gyfer dysgu gydol oes mewn byd gwaith sy'n datblygu'n barhaus.
Ein nod yw sicrhau bod ein disgyblion:
* Yn hapus ac yn ddiogel o fewn cymuned ddysgu gyfoethog
* Cyflawni eu potensial, yn academaidd ac yn bersonol
* Yn meddu ar y sgiliau, y wybodaeth a'r ddealltwriaeth sy'n eu paratoi i gymryd eu lle fel dinasyddion cyfrifol o fewn eu cymdeithas a'u cymuned
* Gwerthfawrogi addysg fel profiad gydol oes a fydd yn parhau ym myd gwaith a hamdden.
Bwriadwn gyflawni'r amcanion hyn drwy ddarparu:
* Dysgu ac addysgu o safon uchel o fewn cwricwlwm eang, cytbwys a pherthnasol sy'n gweddu i allu a dyhead pob disgybl.
* Cyfleon i'n disgyblion arddangos cyfrifoldeb ac arweinyddiaeth ac i elwa o'u profiadau yn yr ysgol.
* Awgyrgylch diogel ac atyniadol sy'n hybu dysgu ac addysgu effeithiol sy'n caniatau i ddisgyblion a staff ddathlu eu llwyddiant.
Ein gwerthoedd:
Mae Ysgol Cil-y-Coed wedi ymrwymo i hyrwyddo ein gwerthoedd craidd, sy'n annog ein disgyblion a'n staff i barchu eraill o fewn yr ysgol, yn y gymuned ac mewn amgylchedd byd-eang drwy feithrin:
* Gonestrwydd, goddefgarwch a pharch
* Hunanddisgyblaeth a hunan-barch
• Cyfrifoldeb
Last Edit: 2007-12-19
