
About the School
Tour of the School
Documentation
School Canteen
Departments
GIFMAT
Extra-Curricular
Curriculum
Special Needs
The Sixth Form
Qualifications Guide 16-19
Y9 Options for KS4
Y11 Options for KS5
Exam Timetable
Uniform
Attendance
Pastoral System
TRANSITION
Lost Property
PTFA Contacts & Info
Dream BugYr Ysgol
Yr Ysgol (About the School)
Mae Ysgol Cil-y-Coed yn ysgol 11-18 gymysg boblogaidd. Derbyniodd yr ysgol gyfun ei disgyblion cyntaf yn 1969. Estynnwyd yr ysgol yn 1973/4 i gynnwys Neuadd Chwaraeon a phwll nofio. Mae dros 1500 o ddisgyblion ar y gofrestr. Ni yw dewis cyntaf y mwyafrif o'r disgyblion a'r rhieni yng Nghil-y-Coed a'r ardaloedd cyfagos.
Mae'r ysgol ar gyrion tref Cil-y-Coed mewn 50 acer o dir ac felly'n cynnig lleoliad gwych, sydd yn dawel ac yn saff ac sy'n caniatau'n i'r disgyblion ganolbwyntio ar eu haddysg.
Mae pedwar prif floc dysgu, ystafelloedd gwyddoniaeth, dau adeilad o weithdai technoleg, uned addysg arbennig, dwy gampfa, Neuadd Chwaraeon fawr, cae tyrff astro a phwll nofio.
O ran ei haddysg, mae ysgol Cil-y-Coed yn meithrin parch at eraill, at eiddo ac at yr ysgol, a hynny mewn awyrgylch sy'n hybu arferion da ac sy'n annog balchder disgyblion ynddynt eu hunain ac yn eu campau. Telir sylw i anghenion unigol pob disgybl er mwyn sicrhau fod pob un yn gadael yr ysgol wedi cyrraedd ei botensial.
Mae'r ysgol yn ganolfan addysgol, yn bennaf, yn creu awyrgylch cyfeillgar lle y gall disgyblion weithio eu gorau glas mewn amgylchedd trefnus a chadarnhaol.
Yn ail, mae hi'n ganolfan deuluol. Mae rhieni'n cael eu croesawu yma ac yn cael eu hannog i gyfrannu. Yn olaf, mae'r ysgol yn ganolfan i ddatblygu perthynas fuddiol rhwng pawb yn y gymuned.
Rydym yn anelu at sicrhau amgylchedd dysgu strwythuredig a threfnus, gan roi cyfleodd cyfartal i bob disgybl dyfu mewn awyrgylch sy'n gwerthfawrogi ymdrech a gorchest. Mae'r ystod o ddulliau dysgu ac addysgu a'r berthynas dda sy'n bodoli rhwng pawb yn creu ysgol y dymuna disgyblion fod yn rhan ohoni.
Yn ystod y dydd, mae'r ysgol yn ffodus iawn i allu defnyddio'r cyfleusterau chwaraeon eang sydd ar gael yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-Coed. Fe'i defnyddir gan y gymuned fel arall.
Last Edit: 2007-12-19
